Dechreuodd Area 43 ym 1996 gyda Chanolfan Galw Heibio yn Aberteifi ond erbyn hyn mae'n cyflwyno amrywiaeth o wasanaethau ar draws Gorllewin Cymru i gyd. Mae ei egwyddorion yn parhau'n ddigyfnewid … cyflwyno gwybodaeth, cefnogaeth a gwasanaethau hyfforddi proffesiynol diogel, gofalgar, an-wahaniaethol ac anfeirniadol i bob person ifanc.

Ein amcanion:

  • Galluogi pobl ifanc i ddatblygu hunan barch ac ymagwedd gadarnhaol tuag at eu bywydau a'u lle mewn cymdeithas
  • Mynd i'r afael â, a brwydro yn erbyn y problemau sy'n wynebu pob person ifanc gyda golwg ar ddigartrefedd, diweithdra, camddefnyddio sylweddau/alcohol, atal troseddau a rhagfarn yn benodol, ac yn arbennig felly yn achos y rhai hynny sydd dan anfantais cymdeithasol, addysgol, yn economaidd neu'n ddaearyddol
  • Meithrin cysylltiadau a chynrychioli anghenion a dyheadau pobl ifanc oddi mewn i'w cymunedau
  • Cydweithredu a rhannu arferion da a phrofiadau gyda'r asiantaethau (statudol ac anstatudol fel ei gilydd) sy'n darparu gwasanaethau i ieuenctid.

Mae'r Ganolfan Galw Heibio i bobl rhwng 16 – 25 oed yn gyrchfan weithredol sydd ar agor 5 diwrnod yr wythnos. Mae'n cynnig gwasanaeth gwybodaeth a gwasanaeth ategol egnïol ac mae yma Gaffi Rhyngrwyd bywiog iawn sy'n darparu diodydd poeth a bwyd sy'n derbyn cymhorthdal ynghyd â dewis o weithgareddau y gall pobl ifanc gymryd rhan ynddyn nhw.

Mae gwasanaethau estynedig Area 43 ar draws Gorllewin Cymru yn cynnwys, er enghraifft, Cwnsela, Hyfforddi, Mentora ac fel arfer caiff ei wasanaethau Teithiol ac Estyn Allan eu cyflwyno drwy gytundebau gydag Awdurdodau Lleol neu asiantaethau eraill y Llywodraeth, wedi eu hariannu o Ewrop, neu cânt eu comisiynu weithiau gan ymddiredolaethau elusengar neu sefydliadau annibynnol eraill.