Ffon am Dim: 0800 0385778

Ffoniwch ni am sgwrs am yr hyn y medrwn ei gynnig

Ysgolion a Gwasanaethau Cwnsela Cymunedol ym Mhowys

Mae Area 43 yn darparu Gwasanaeth Cwnsela mewn Ysgolion ac yn y Gymuned Annibynnol ym Mhowys.

Mae gwasanaeth cwnsela Area 43 ar gael i bob plentyn a pherson ifanc, p’un a ydynt yn yr ysgol neu’n cael eu haddysgu gartref yn ddewisol, lleoliadau cymunedol a gellir cynnig sesiynau ar-lein fel dewis amgen i leoliadau ysgol fel y bo’n briodol. Bydd cwnselwyr yn sefydlu unrhyw ofynion arbennig yn ystod y rhyngweithiad cyntaf ac yn penderfynu ar y dewis iaith, gan sicrhau sensitifrwydd i wahaniaethau diwylliannol a allai gael effaith. Gall Area 43 gynnig cwnselwyr amgen yn ôl yr angen, gan ystyried rhyw ac iaith.

Mae cwnsela yn ffordd fedrus o helpu pobl â phroblemau ac anawsterau personol a datblygiadol mewn amgylchedd diogel a chyfrinachol sy’n rhoi cyfle iddynt archwilio, darganfod ac egluro ffyrdd o fyw mewn ffordd fwy bodlon a dyfeisgar. Mae’n cynnig y cyfle i gynyddu hunanymwybyddiaeth, datblygu adnoddau personol a deall eu problemau yn ogystal â datblygu strategaethau i ymdopi â newid. Mae ein gwasanaeth cwnsela yn cael ei ddarparu gan weithwyr proffesiynol hyfforddedig iawn ac yn cael ei reoli gan bobl sy’n deall yn llawn werthoedd, nodau a chyfyngiadau cwnsela.

Darperir gwasanaethau wyneb yn wyneb rhwng dydd Llun a dydd Sadwrn 9am i 6pm, drwy gydol y flwyddyn, ac eithrio Gwyliau Banc. Bydd y sesiynau’n 1:1 neu mewn grwpiau (lle bo’n briodol) ar gyfer dysgwyr 10 – 19 oed, naill ai mewn ysgolion neu yn y gymuned yn ôl yr angen.

Fel arall, gallwn ddarparu gwasanaeth cyfunol, di-dor gyda sesiynau ar-lein fesul llwyfannau cyfarfod ar-lein diogel, gan ehangu’r ystod oedran i bobl ifanc 11 – 25 oed yn dibynnu ar anghenion plant a phobl ifanc. Bydd pob perthynas gwnsela fel arfer yn cynnwys hyd at wyth sesiwn wythnosol ac yn eu dewis o iaith.

Mae gwasanaethau ar-lein yn bwrpasol ac wedi’u teilwra i’r unigolyn, gyda phobl ifanc yn cael eu paru â chynghorydd a fydd yn darparu gwasanaethau o’r un ansawdd trwy ddulliau ar-lein â’r gwasanaethau wyneb yn wyneb, gyda mesurau diogelwch ychwanegol yn eu lle. Caiff sesiynau ar-lein eu trefnu gan gwnselwyr yn uniongyrchol gyda’r unigolyn ar adegau sy’n gyfleus ac yn cynnwys nosweithiau, penwythnosau, a Gwyliau Banc hyd at 10.00pm. Ar gyfer sesiynau o bell, bydd y cwnselydd yn anfon dolen cyfarfod fideo a chyfarwyddiadau i’r cleient i fynychu ei sesiwn ar yr amser a drefnwyd ymlaen llaw gan ddefnyddio’r dull cyfathrebu a ffefrir ganddo.

Mae ein prif swyddfa ar agor drwy gydol y flwyddyn, gyda ffonau’n cael eu hateb o bell 24/7 gan staff sy’n sensitif i anghenion plant a phobl ifanc, rhieni, gofalwyr a staff ysgol sy’n gofyn am atgyfeiriad i’r gwasanaeth cwnsela. Darparwn rieni â pherson deallgar i ymddiried ynddo, ar gyfer eu hanghenion llesiant eu hunain o ran plant a phobl ifanc. Mae gennym gwnselwyr a goruchwylwyr ar gael yn ystod gwyliau ysgol a thu allan i oriau ysgol. Felly, gyda chytundeb plant a phobl ifanc, caiff apwyntiadau eu cynnal naill ai’n bersonol neu o bell yn ystod yr amserau hyn.

Gallwch gael mynediad at wasanaethau cwnsela trwy lenwi ein ffurflen atgyfeirio isod, os hoffech siarad â rhywun o flaen llaw, gallwch siarad ag athro yn eich ysgol. Ffoniwch Area 43 ar 0800 0385778, sef rhif ffôn rhad ac am ddim neu Louise Greenwood ar 07975590119 neu louise@area43.co.uk

Mae Area 43 yn derbyn atgyfeiriadau gan asiantaethau proffesiynol eraill, rhieni/gofalwyr, gweithwyr iechyd, gweithwyr ieuenctid a staff ysgol gan ddefnyddio’r un ffurflen atgyfeirio, ond ni all neb ‘wneud’ i chi gael cwnsela os nad ydych ei eisiau.

Mae Area 43 yn aelod gweithgar o Gymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain (BACP) a’i Hadran Plant a Phobl Ifanc. Rydym wedi ymrwymo i gefnogi Fframwaith Moesegol y BACP ar gyfer Arfer Da mewn Cwnsela.


Dolenni
samaritans logo

Samaritans

childline

Childline

Papyrus Hopeline

Papyrus

YoungMinds Crisis Messenger

YoungMinds Crisis Messenger

CALM_Logo

CALM

CALL Helpline

C.A.L.L

logo

OK Rehab

Ffon am Dim: 0800 0385778

Ffoniwch ni am sgwrs am yr hyn y medrwn ei gynnig

 

Dyma gasgliad o ymatebion gan fyfyrwyr wnaeth ddarparu adborth am eu profiadau cynghori:

“Fe wnaeth fy helpu i ddeall yr emosiynau a oedd gennyf. Fe wnaeth fy helpu i newid sut yr oeddwn yn delio gydag a gweld problemau. Fe wnaeth fy helpu i ymddiried mewn eraill yn fwy nag yr oeddwn o’r blaen”

“Drwy adeiladu fy hyder yn y dosbarth a fy helpu i reoli fy nhymer”

“Fe wnaeth y sesiwn gynghori fy helpu i mi gredu yn fy hun, ddim i roi fy hun i lawr neu deimlo’n anesmwyth yng nghwmni pobl, i feddwl pethau’n ofalus ac nid oes angen poeni am ddim byd”

“Nid wyf yn teimlo dan bwysau cymaint ag yr oeddwn ac rwyf wedi siarad gyda rhywun am fy mhroblemau. Rwyf wedi ennyn hyder ac nid wyf yn dadlau gyda’r athrawon bellach”

“Fe wnaeth fy helpu i i weld sut yr oeddwn yn ddig a sut mae ymdopi ac rwyf wedi dysgu strategaethau”

“Oherwydd roeddwn yn gallu siarad am unrhyw beth a deimlais yn gyffyrddus. Roedd fy nheimladau am foreau Llun yn well”

“Fe wnaeth fy helpu newid a nawr mae pobl yn mwynhau bod yn fy nghwmni a chefais fy hyder yn ôl”

“Roedd hi’n braf cael gwybod fy mod i unwaith yr wythnos yn gallu siarad â rhywun, roedd modd i mi ganolbwyntio ar fy ngwaith ysgol yn lle poeni am bethau a oedd ar fy meddwl a dysgais sut i helpu fy hun a chael mwy o hyder”

“Fe wnaeth fy helpu troi fy rhagolwg ar bethau a theimlaf lawer hapusach am fy hun a pherthnasau gyda phobl eraill o’m cwmpas”

“Oherwydd bues i’n meddwl gwneud niwed i mi fy hun ond mae cyngor wedi fy helpu drwy’r sefyllfa”

“Teimlaf fy mod wedi dod o hyd i mi fy hun eto. Rwyf lawer hapusach nawr ac mae pethau’n dechrau gwella.”