string(45) "/cym/gyrfaoedd/lleoliadau-cymorth-cyflogaeth/"
Lleoliadau Cymorth Cyflogaeth

Gyrfaoedd i bobl ifanc 16-25 oed

Lleoliadau Cymorth Cyflogaeth

WYT TI RHWNG 16 – 25 OED?

Rydym yn cynnig Lleoliadau Cymorth Cyflogaeth yn Depot yn Aberteifi, ac yn dod yn fuan i 56 yn Llambed!

Os oes gennyt ti ddiddordeb, galwa draw i Depot am sgwrs gyda Michelle, neu e-bostia hi ar michelle@area43.co.uk

Gwybodaeth am leoliadau gwaith

Caniatáu i bobl ifanc ddysgu mewn amgylchedd diogel a byw

Mae’r lleoliadau Cymorth Cyflogaeth yn hanfodol i ddarparu cyfleoedd i bobl ifanc sydd bellaf o’r farchnad swyddi. Mae llawer yn wynebu rhwystrau sylweddol i gyflogaeth, boed hynny oherwydd diffyg profiad, heriau personol, neu fynediad cyfyngedig i gyfleoedd.

O ystyried natur twristiaeth ein heconomi, creodd Area 43 raglen leoli a oedd yn caniatáu i bobl ifanc ddysgu mewn amgylchedd byw, ond diogel, gyda’r lefelau dwys o gymorth sydd eu hangen i oresgyn rhwystrau i gyflogaeth.

Yn ystod eu hamser gyda ni, mae pobl ifanc yn magu cadernid, sgiliau cyfathrebu, yn goresgyn orbryder wrth ddelio â chwsmeriaid, ac yn mynd i’r afael â’u holl anghenion cymorth unigol i allu cael cyflogaeth ystyrlon. Gallwch weld beth sydd ganddyn nhw i’w ddweud am eu profiadau yn eu flogs, ac os yw’r gefnogaeth hon yn rhywbeth y byddech yn elwa ohono, cysylltwch â ni!

Sgiliau

Bydd di'n dysgu

Sgiliau barista

Sgiliau cyfathrebu

Ymwybyddiaeth o hylendid bwyd ac alergenau

Cymorth a chyngor un i un

Hylendid personol

Creu Cofnod Cyrhaeddiad (CV)

HELP NAWR