string(31) "/cym/safleoedd-saff/stage-goat/"
Stage Goat

Stage Goat mewn partneriaeth gyda Area 43

56

Stage Goat

BETH YW 56 A’R PARTNERIAETH?

Mae Stage Goat Theatre Company wedi ymuno mewn partneriaeth gyda Area 43 i lansio 56, hwb cymorth cynnar yng nghalon Llambed.

Bydd y hwb yn dilyn model safle saff Depot, ac yn gweithredu fel safle cynhwysol a chroesawgar ac yn darparu ymyrraeth gynnar i bobl ifanc 13-25 oed.

@56_llambed

AMSERAU AGOR DROS DRO @VIC HALL

Dydd Mercher & Dydd Iau: 2PM-7PM

ORIAU AGOR 56

Dydd Mawrth – Dydd Sadwrn: 2PM -7PM
Dydd Llun & Dydd Sul: ar gau

Rachel Eagles, Prif Swyddog Gweithredol Area 43

“Rydym yn falch iawn o weithio mewn partneriaeth â Stage Goat fel darparwr gwasanaethau cymorth ieuenctid lleol…

“Nhw sydd yn y sefyllfa orau i ddiwallu’r anghenion yn Llanbedr Pont Steffan, ac rydym ni yn Area 43 wedi ymrwymo i bartneriaethau gyda sefydliadau sy’n cyd-fynd â’n hethos a arweinir gan bobl ifanc i ddarparu gwasanaethau o safon, i bobl ifanc waeth ble y’u lleolir.”

Stage Goat

Pethau i wybod am Stage Goat

Daw Caffi Ieuenctid Stage Goat o ganlyniad i ymgynghoriad drwy brosiect Dyfodol Ni, lle clywsom gan dros 1300 ohonoch fod angen mwy o safleoedd saff arnoch ar draws y sir. Ers blynyddoedd, mae pobl ifanc Llanbedr Pont Steffan wedi bod yn galw am rywle saff i fynd, lle gallant gael cymorth a bod gyda ffrindiau, heb orfod mynd i wasanaeth cymorth ffurfiol, neu glwb.

56 yw eich ateb, yn agor yn 2025, reit ar y stryd fawr.

Mae 56 yn safle saff arall a arweinir gan bobl ifanc yng Ngheredigion, sy’n cael ei oruchwylio gan S3 fel rhan o’u rhwydwaith safleoedd saff. Dysga fwy am rwydwaith safle saff S3 isod:

Dysgu mwy
Stage Goat

Yn falch i gael ein hariannu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol

EIN GWAITH

Archwilia ein brosiectau

  • Stage Goat

    Dyfodol Ni

    Wedi’i ariannu gan Raglen Mind Our Future Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, mae Dyfodol Ni wedi dod at ei gilydd i ddarparu gwasanaethau cydgysylltiedig, wedi’u cydgynhyrchu ac yn rhoi pobl ifanc ar y blaen er mwyn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac ymyriadau i bobl ifanc Ceredigion.

    Dysgu Mwy
  • Stage Goat

    SAFLE SAFF I SIARAD

    S3 yw Bwrdd Ieuenctid Dyfodol Ni, prosiect a ariennir gan y Loteri Genedlaethol, sy’n defnyddio ac yn hyrwyddo ffyrdd newydd o wella iechyd meddwl pobl ifanc.

    Dysgu Mwy
  • Stage Goat

    Depot

    Mae Depot yn safle saff i unrhyw un 14-25 oed. Mae'n fynediad hollol agored, sy'n golygu y gallu di gerdded i mewn - does dim angen cofrestru nac atgyfeiriadau, a'r unig ofyniad dy fod yr oedran cywir!

    Dysgu Mwy
HELP NAWR