Mae Polisi Gwrth-Gaethwasiaeth Area 43 wedi’i lunio yn unol ag Adran 54 o Ddeddf Caethwasiaeth Fodern 2015 y DU. Mae’n nodi’r camau a gymerir i sicrhau nad yw caethwasiaeth fodern na masnachu pobl yn digwydd o fewn ein busnes na’n cadwyn gyflenwi.
Mae Caethwasiaeth Fodern yn cwmpasu caethwasiaeth, caethwasanaeth, masnachu pobl a llafur gorfodol. Mae gan Area 43 ddull dim goddefgarwch i fathau o gaethwasiaeth fodern. Rydym wedi ymrwymo i weithredu’n foesegol a chyda gonestrwydd a thryloywder ym mhob trafodion busnes ac i roi systemau a rheolaethau effeithiol ar waith i ddiogelu rhag unrhyw fath o gaethwasiaeth fodern sy’n digwydd o fewn y busnes neu ein cadwyn gyflenwi.