Dylent bob amser gael rhywle i droi ato a rhywun i siarad ag ef, waeth beth fo’r lleoliad neu amgylchiadau.
Rydym yn arbenigo mewn cymorth i bobl ifanc, mewn lleoliadau ffurfiol ac anffurfiol. Gan weithio gyda chwnselwyr o’r radd flaenaf, mae Area 43 yn darparu cwnsela i bobl ifanc mewn pedair sir: Ceredigion, Powys, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro. Rydym yn addasu i ddymuniadau ac anghenion pobl ifanc, ac yn cydnabod bod angen i’n sesiynau cwnsela fod yn hyblyg, sy’n golygu y gall pobl ifanc weld ein cwnselwyr mewn lleoliadau cymunedol, ysgolion, neu mewn rhai o’n safleoedd diogel, ar adeg sy’n gyfleus iddyn nhw.
Y llinyn arall i’n bwa yw ein Canolfannau Cymorth Cynnar. Mae Area 43 wedi ymrwymo i sicrhau rhwydwaith o safleoedd saff ar draws Ceredigion, a grymuso lleisiau’r ifanc i bwysleisio eu pwysigrwydd ledled y DU.
Mae pobl ifanc yn gwybod y gallant ddod atom ni, nid yn unig pan fyddan nhw mewn argyfwng, ond cyn iddyn nhw fod mewn sefyllfa o’r fath, a gwybod y cânt eu clywed, y gwrandewir arnyn nhw a’u bod yn cael eu cefnogi i wneud newidiadau.