Gwybodaeth am ein heffaith
Mae Area 43 yn falch iawn o gael ei chydnabod gan Dr Alex George, Llysgennad Iechyd Meddwl Ieuenctid y DU am y gwaith a wnawn, ac i fod yn rhan o’r ymgyrch ‘Fund the Hubs’.
Mae Area 43 yn falch o gefnogi dysgu eraill ac yn cymryd rhan mewn astudiaeth DU gyfan gan Brifysgol Rhydychen, a gwasanaethau eraill ynghylch mesur effaith y gwaith a wnawn gyda phobl ifanc.
Ar Noson Wobrwyo Caru Ceredigion 2024, enillodd Area 43 Busnes y Flwyddyn, a’r Wobr Arloesedd Cymunedol ar gyfer Dyfodol Ni. Roeddwn yn y rownd derfynol o’r Gwobrau Elusennol Cymru ar gyfer Sefydliad y Flwyddyn, ac fe greodd pobl ifanc o Depot fideo am ein heffaith a chyrhaeddodd rhestr fer yn y Smiley Charity Film Awards 2024.