Ein prif flaenoriaeth yw sicrhau safleoedd saff ar draws Ceredigion. Drwy gydol 2024, rydym wedi datblygu Cynllun Cymeradwyo ar gyfer y rheini sy’n cynnal safleodd a gwasanaethau i bobl ifanc yng Ngheredigion, sydd wedi’i brofi gan rai o’n Partneriaid Dyfodol Ni, a bydd yn agor yn gyhoeddus yn 2025.
Mae Maniffesto S3 yn amlinellu’r hyn rydyn ni’n ei ystyried yn safleodd safd, o ganlyniad i ymgynghori helaeth â 1300 o bobl ifanc ledled y sir drwy gydol ein blwyddyn ymchwil, a gwasanaethau diogelu yn dilyn meini prawf tebyg iawn. Mae ein Cynllun Cymeradwyo yn dilyn y gofynion hyn, ac yn gofyn i ymgeiswyr nodi sut maent yn bodloni pob cam. Y nod yw i bob sefydliad sy’n canolbwyntio ar ieuenctid yng Ngheredigion gael ei gymeradwyo gan S3, fel bod pobl ifanc yn cydnabod ei fod yn saff, ac yn bodloni eu disgwyliadau o ran gwasanaeth diogel.
Ni fydd sefydliadau nad ydynt yn bodloni’r holl feini prawf yn cael eu beirniadu, yn hytrach mae hwn yn gyfle dysgu i ni a’r ymgeisydd – byddwn yn trafod y gwendidau, a ffyrdd y gallan nhw wella, ac yna bydd ymweliad personol fel y gallwn weld sut mae’r gwasanaeth yn gweithio i ni ein hunain. Ein nod yw helpu sefydliadau i fod y gorau y gallan nhw fod, fel ein bod ni i gyd yn fwy sefydlog, ac yn berthnasol i bobl ifanc heddiw.