Safle Saff i Siarad
Llyw a Byw
Mae Area 43 wedi datblygu’r Strategaeth Diogelu gynhwysfawr hon sydd wedi’i hintegreiddio ar draws ei holl weithgareddau. Mae ein Datganiad Polisi Diogelu ac Amddiffyn Plant yn nodi’r mesurau rydym wedi’u rhoi ar waith.
Mae ein Polisi Diogelu yn cydnabod ac yn ymgorffori’r egwyddorion a nodir yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn ac yn ymwneud ag unrhyw blentyn neu berson ifanc o dan 18 oed. Mae’n cyd-fynd â chanllawiau Gweithdrefnau Diogelu Cymru, sy’n sicrhau bod arferion diogelu yn adlewyrchu canllawiau statudol yn gywir ac wedi’u safoni ar draws pob asiantaeth a Chymru gyfan. Mae Gweithdrefnau Diogelu Cymru yn disodli Gweithdrefnau Diogelu Plant Cymru Gyfan (2008) a Pholisi a Gweithdrefnau Dros Dro Cymru ar gyfer Diogelu Oedolion Agored i Niwed rhag Cam-drin (wedi’i ddiweddaru yn 2013). Mae hefyd yn cydnabod ac yn ymgorffori’r canllawiau a nodir yn y Safonau Cenedlaethol ar gyfer Hyfforddiant, Dysgu a Datblygu Diogelu, sy’n sicrhau bod staff yn cael y lefel briodol o hyfforddiant ar gyfer eu lefel o gyfrifoldebau diogelu.
Gallwch ddod o hyd i’n polisi llawn yma:
https://www.area43.co.uk/cym/wp-content/uploads/sites/3/2026/04/17-Safeguarding-Policy-v3-Aug-25-COMBINED.pdf