Mae Depot, Llyw a Byw a’n canolfannau i gyd yn ymwneud â diwallu anghenion pobl ifanc, fel y’u diffinnir ganddyn nhw. Ein nod yw bod yn ffynhonnell hysbys o gymorth i bobl ifanc a chynnig sylfaen saff iddyn nhw yn ystod cyfnodau o newid aruthrol yn eu bywydau, p’un a ydynt ‘mewn perygl’ ai peidio.
Mae Depot yn anffurfiol, yn hwyl, ac er bod rhaglenni a chymorth yn cael eu hwyluso gan weithwyr cymorth gofalgar deallusol, maent yn cael eu pennu a’u harwain gan bobl ifanc.