Depot
Mae’n fynediad hollol agored, sy’n golygu y gallu gerdded i mewn – does dim angen cofrestru nac atgyfeiriadau, a’r unig ofyniad yw dy fod yr oedran cywir!
Mae Depot yn cael ei redeg gan bobl ifanc, ar gyfer pobl ifanc. Cynlluniwyd popeth gyda mewnbwn gan bobl fel ti, ac mae tîm o Weithwyr Cymorth Ieuenctid yno i helpu gydag unrhyw faterion y gallet fod yn eu hwynebu. Boed yn gyngor, cefnogaeth, neu ddim ond rhywun i siarad â nhw, byddan nhw yno i ti. Efallai y byddi hefyd am ddefnyddio’r safle fel man i ymlacio, ond rydym hefyd yn cynnal gweithgareddau sy’n canolbwyntio ar iechyd meddwl a llesiant, fel ffitrwydd, newyddiadura, ymwybyddiaeth ofalgar, neu sgyrsiau grŵp am berthnasoedd, ymddygiad, ac unrhyw bynciau eraill sy’n codi. Hefyd, os wyt ti’n newynog, gallu cael rhywfaint o fwyd a diodydd naill ai am ddim neu am gost isel. Mae’r holl wasanaethau eraill am ddim.