Rydym yn mynd i’r afael yn uniongyrchol â’r materion sy’n ymwneud ag arwahanrwydd, hunan-barch, a chryfder er mwyn lleihau effaith materion iechyd meddwl sy’n effeithio ar bobl ifanc drwy weithio gyda phobl ifanc, yn hytrach na chreu gwasanaethau a gosod pobl ifanc ynddyn nhw.
Rydym yn hyblyg, yn cael ein harwain gan anghenion, yn ystyriol o drawma ac yn ddibynadwy. Mae pobl ifanc yn gwybod y gallant ddod atom, nid yn unig pan fyddan nhw mewn argyfwng, ond cyn hynny, y cânt eu clywed, y gwrandewir arnyn nhw a’u cefnogi i wneud newidiadau.
Nod pob un o’n gwasanaethau cwnsela yw gwella llesiant emosiynol a meddyliol pobl ifanc yr effeithir arnyn nhw gan bryderon iechyd meddwl ysgafn i gymedrol, trwy gynnig cwnsela tymor byr, annibynnol, person-ganolog, anfeirniadol, cyfrinachol sy’n adeiladu cadernid.
Rydym yn deall y gall fod angen rhwydweithiau cymorth mwy ar bobl ifanc ag anghenion lluosog a chymhleth, felly rydym yn defnyddio ein gwybodaeth a’n cysylltiadau â gwasanaethau eraill i ddiwallu eu hanghenion orau.