Credwn mai pobl ifanc yw’r arbenigwyr yn yr hyn sydd orau iddyn nhw, a’r hyn sydd ei angen arnyn nhw fwyaf. Felly rydym yn cael ein harwain gan bobl ifanc – rydym yn ymgynghori’n anffurfiol â phobl ifanc sy’n defnyddio ein gwasanaeth, ac yn y gymuned ehangach, ac mae ein byrddau ieuenctid yn gwneud penderfyniadau rheolaidd a ffurfiol.
Rydym yn cyd-gynhyrchu ein gwasanaethau gyda phobl ifanc. Pobl ifanc sy’n penderfynu cyfeiriad ein gwasanaethau, sut olwg sydd arnyn nhw, pa weithgareddau sy’n cael eu cynnal, sut olwg sydd ar y caffis ieuenctid, a sut maent yn rhyngweithio â ni. Mae hyn yn golygu y gallwn fod yn sicr bod ein gwasanaethau yn parhau i fod yn berthnasol, yn arloesol ac yn cael eu harwain gan bobl ifanc.
Strategaeth Dyfodol Ni