Gwybodaeth am Gwnsela ym Mhowys
Mae Area 43 yn darparu Gwasanaeth Cwnsela mewn Ysgolion ac yn y Gymuned Annibynnol ym Mhowys.
Mae gwasanaeth cwnsela Area 43 ar gael i holl blant a phobl ifanc10-18 oed ym Mhowys, p’un a ydynt yn yr ysgol neu’n cael eu haddysgu gartref yn ddewisol, gellir cynnig lleoliadau cymunedol a sesiynau ar-lein fel dewis amgen i leoliadau ysgol fel y bo’n briodol. Mewn rhai amgylchiadau, gall cwnselwyr weld pobl ifanc hyd at 25 oed.
P’un a wyt ti’n teimlo dan straen, yn orbryderus, neu ddim ond angen rhywun i wrando, rydyn ni yma i dy gefnogi. Y cyfan sydd ei angen yw galwad neu neges gyflym i ddechrau.