Wedi’i ariannu gan Raglen Mind Our Future Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol tan 2028, mae Dyfodol Ni wedi dod o hyd i ffyrdd newydd o frwydro yn erbyn iechyd meddwl pobl ifanc yng Ngheredigion.
Bydd Dyfodol Ni yn gweithredu newid systemig yn y ffordd y mae gwasanaethau sy’n cefnogi iechyd meddwl pobl ifanc yn gweithredu. Y bwriad yw creu model ar gyfer darparu safleoedd saff a hyrwyddo llais ieuenctid y gellir ei gyflwyno fesul cam, yn gyntaf ar lefel sirol, ac yna ar lefel genedlaethol.
Rydym yn cael ein harwain gan bobl ifanc o’r dechrau’n deg, yn cael ein llywodraethu gan ein bwrdd ieuenctid, S3, ac yn canolbwyntio’n llwyr ar ymchwil gyda phobl ifanc.