Ffon am Dim: 0800 0385778
Ffoniwch ni am sgwrs am yr hyn y medrwn ei gynnig
Cwnsela Ar Sail Ysgolion
Mae Area 43 yn cynnig gwasanaethau cwnsela annibynnol yn Ysgol Gyfun Aberaeron, Ysgol Uwchradd Aberteifi, Ysgol Bro Pedr, Ysgol Bro Teifi, Ysgol Y Preseli a Gwasanaeth Cwnsela Annibynnol wedi ei seilio mewn ysgolion i Derbynfa o Blwyddyn 13 yn sir Gâr.
Fe wnaeth y gwasanaeth cynghori ddechrau yn 2008, yn dilyn ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru y byddai ‘holl blant ysgol yn gallu cael mynediad at wasanaethau cynghori, gan roi hyder iddynt y byddai eu hanghenion yn cael eu clywed a’u cyfeirio.’ Roedd datblygiad y gwasanaeth cwnsela ar sail-ysgol cyffredinol ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghymru yn argymhelliad o Adroddiad Ymchwiliad Clywch gan Gomisiynydd Plant Cymru.
Mae cynghori yn ffordd grefftus o helpu pobl gyda materion personol a datblygiadol ac anawsterau. Mae amgylchedd diogel a chyfrinachol yn rhoi cyfle i unigolion i archwilio, darganfod a dod o hyd i ffyrdd i fyw mewn ffordd fwy boddhaol a medrus. Mae’n cynnig y cyfle i gynyddu hunanymwybyddiaeth, datblygu adnoddau personol a deall y problemau yn ogystal â datblygu strategaethau i ymdopi â newid.
Mae gwasanaeth cwnsela Area 43 ar gael i holl blant a phobl ifanc, pun ai a ydynt yn yr ysgol, cartref neu ‘addysgu fel arall’. Mae gennym gwnselwydid gwrywaidd a benywaidd yn etîmtim a gallwn gynnig cwnsela’n ddwyieithog. Rydym yn cynniggwasanaetheth yma mewn 19 ysgol uwchradd, mae gennym 5 uned ble rydym yn cyfeirio disgyblion, yn gwasanaethu 2 ysgol arbennig a 140ysgolionion cynradd ac yn cyflwyno sesiynau cwnselai dros 1,000 o bobl ifanc yn flynyddol.
Sut mae Myned Cwnsela Ar Sail Ysgolion Gan Area 43
Mae sawl gwahanol ffordd o fyned y gwasanaeth cynghori – I wneud apwyntiad gofynnwch yn uniongyrchol i’ch Athro, Pennaeth Blwyddyn neu’r Cynghorydd yn eich ysgol. Os yr ydych am wneud apwyntiad heb siarad ag unrhyw un yn yr ysgol, gallwch ffonio Area 43 ar 0800 849 7979, sy’n alwad rhad ac am ddim neu ffoniwch 01239 614566, yn ystod oriau gwaith, neu cwblhewch ein ffurflen hunangyfeirio. Mewn rhai amgylchiadau, byddwn am ofyn i’ch rhieni/gofalwyr am eu hawl, ond byddem yn trafod hyn gyda chi o flaen llaw.
Mae Area 43 yn cymryd cyfeiriadau gan asiantaethau proffesiynol arall, rhieni/gofalwyr, gweithwyr iechyd, gweithwyr ieuenctid a staff ysgol ond ni all unrhyw un eich ‘gorfodi’ chi i gael cwnsela os nad ydych eisiau.
Mae Area 43 yn aelod gweithredol o’r British Association for Counselling & Psychotherapy (BACP) a’i hadran Blant & Phobl Ifanc. Rydym yn ymrwymedig i gefnogi Fframwaith Moesegol BACP am Ymarfer Da mewn Cwnsela. Caiff y gwasanaeth cwnsela ei monitro gan oruchwyliwr clinigol, y cyfarwyddwr clinigol a rheolaeth yn Area 43.
Cwnsela Arlein
Yma i Chi yw Gwasanaeth Cynghori Ar-lein RHAD AC AM DDIM i’r holl bobl ifanc sy’n byw yng Ngheredigion, (oed 16-30) a’r rheiny 13-18 oed sydd wedi cofrestru ym meddygfeydd teulu yn Ne Penfro. Mae gennym dîm o gynghorwyr gwrywaidd a benywaidd sy’n gallu cynnig gwasanaeth dwyieithog. Mae ein holl gynghorwyr yn meddu ar gymwysterau cydnabyddedig o leiaf hyd at lefel gradd, gan ychwanegu hyfforddiant arbenigol wrth weithio gyda phobl ifanc.
Cwnsela Ar Sail Canolfan
Mae Area 43 hefyd yn cynnig gwasanaeth cynghori proffesiynol, cyfrinachol, sy’n rhad ac am ddim i holl bobl ifanc oed 16-25 sy’n gallu mynychu ein Canolfan Galw-mewn yn Aberteifi. Cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion uwch, neu ffoniwch ni am sgwrs.
Caiff ein gwasanaeth cynghori ei gyflwyno gan bobl broffesiynol sydd wedi eu hyfforddi’n dda ac wedi eu rhoi gan bobl sydd wir yn deall gwerthoedd a bwriadau, yn ogystal â chyfyngiadau cynghori.
Yn llethol, mae plant a phobl ifanc yn adrodd bod cynghori wedi eu helpu hwy ac wedi gwneud wir gwahaniaeth i wella ansawdd eu bywydau a’r ymdeimlad o les. Roeddent yn poeni llai, yn teimlo bod ganddynt fwy o gefnogaeth ac yn fwy abl i ymdopi gyda materion yn ysgol, yn y cartref ac ym mywyd yn gyffredinol.
Rydym bob amser â diddordeb mewn cwrdd â chynghorwyr cofrestredig BACP (neu gyfartal) i drafod cyfleoedd posibl yn Area 43, neu i drafod ein gwaith yn gyffredinol. Cysylltwch â Lisa Head 01239 614566.
Ffon am Dim: 0800 0385778
Ffoniwch ni am sgwrs am yr hyn y medrwn ei gynnig
Dyma gasgliad o ymatebion gan fyfyrwyr wnaeth ddarparu adborth am eu profiadau cynghori: