Teitl y Swydd: Cwnsela
Cytundeb: Newidiol
Cyflog: £105 y dydd
Lleoliad: Lleolir yng Ngorllewin Cymru
Mae Area 43 yn sefydliad ieuenctid hir-sefydlog, sy’n darparu gwasanaethau i blant a phobl ifanc ar draws gorllewin Cymru. Fel rhan o’r ddarpariaeth hon, rydym yn darparu gwasanaethau cwnsela yn yr ysgolion ac mewn sefydliad preifat i bobl ifanc. Mae Area 43 yn edrych i recriwtio cwnselydd, yn gweithio’n deithiol ar draws y ddarpariaeth yn darparu gwasanaethau wyneb i wyneb a gwasanaethau ar-lein, yn ôl yr angen. Bydd ymgeiswyr yn frwdfrydig ac yn angerddol gyda chymhwyster diploma neu debyg a gydnabyddir gan y British Association of Counsellors and Physiotherapists (BACP). I wneud cais anfonwch CV a llythyr eglurhaol i counselling@area43.co.uk
Rydym yn hynod awyddus i glywed gan gwnselwyr wedi eu lleoli yn Sir Benfro a’r rheiny sy’n barod i deithio.
Cliciwch yma am y Swydd Ddisgrifiad
Rôl: Ymddiriedolwr
Cytundeb: Gwirfoddol
Lleoliad: Lleoli yng Ngorllewin Cymru – Aberteifi, Ceredigion, SA43 1DW
Caiff costau teithio rhesymol eu talu.
Ymrwymiad: Pedwar cyfarfod bwrdd y flwyddyn ynghyd â gofynion ad hoc
Pwrpas cyffredinol y rôl:
Gan fod y bwrdd yn gyfrifol ac yn atebol am lywodraethu a gweithredu’r elusen, maent yn atebol i raddau amrywiol i amrywiaeth o ddeiliaid diddordeb, gan gynnwys: defnyddwyr gwasanaeth, aelodau, cyllidwyr, y Comisiwn Elusennau, a Thŷ’r Cwmnïau. Rhaid rhoi sylw manwl i’r ddogfen lywodraethol i ddarganfod y math o strwythur sefydliadol a’r ystod o bartïon â diddordeb.
- Sicrhau bod yr elusen a’i chynrychiolwyr yn gweithredu o fewn fframwaith cyfreithiol a rheoliadol y sector ac yn unol â dogfen lywodraethol y sefydliadau, gan ymdrechu’n barhaus am arfer gorau ym maes llywodraethu.
- Cynnal y ddyletswydd ymddiriedol a fuddsoddir yn y swydd, gan gyflawni dyletswyddau o’r fath mewn ffordd sy’n ymdrechu’n barhaus am arfer gorau mewn trefn lywodraethol.
- Pennu cyfeiriad a datblygiad cyffredinol yr elusen trwy lywodraethu da a chynllunio strategol clir
- Hyrwyddo hyder ac ymddiriedaeth y cyhoedd yn yr elusen.
Os oes angen unrhyw wybodaeth bellach arnoch neu os hoffech drafod y sefyllfa, cysylltwch â Rachael Eagles (Rachael@area43.co.uk) i drefnu sgwrs.