area43 painting


Elusen Gofrestredig Annibynnol yw Area 43, yn Aberteifi, Gorllewin Cymru, rydym yn darparu Gwybodaeth, Cefnogaeth a Hyfforddiant i bobl ifanc oed 16-25 a gwasanaethau cwnsela i’r rheiny oed 10-30. Wedi ei sefydlu fel prosiect a arweinir gan y gymuned yn 1996 rydym wedi bod ynghanol y Sector Gwirfoddol yng Ngorllewin Cymru am fwy nag 20 mlynedd.

Mae Area 43 yn darparu amgylchedd diogel, hwyl, addysgiadol ac ysbrydoledig i bobl ifanc i gael mynediad i gefnogaeth. Bwriadwn roi grym i bobl ifanc i fynegi eu hun drwy weithio’n agos gyda’r materion sy’n eu heffeithio’n uniongyrchol.  Rydym yn gwneud hyn drwy ymarfer addysgol, cyfranogol, yn eu caniatáu hwy i ddatblygu gwybodaeth, dealltwriaeth ac agweddau positif tuag at eu cymunedau drwy fod yn gynwysedig ac nid yn feirniadol yn ein dull.

Gan ddatblygu a darparu ystod eang o gefnogaeth o wasanaethau cefnogi ar gyfer pobl ifanc, ein bwriadau yw i:

  • Ganiatáu plant a phobl ifanc i ddatblygu hunan-barch a dull gweithredu positif i’w bywydau a’u lle mewn cymdeithas.
  • Annog hwy i gymryd rhan drwy roi profiadau dysgu a phrosesau gwneud penderfyniad sy’n effeithio ar eu bywydau a’u cymunedau.
  • Ymateb a delio gyda’r problemau maent yn eu hwynebu yn eu hamgylchiadau cartref, perthnasau, profiadau cymdeithasol a bywyd, gan dalu sylw arbennig i’r rheiny sydd wedi eu herio gan ddigartrefedd, anghyflogaeth, camddefnydd sylwedd/alcohol, drawsryweddol ac anffafriaeth.
  • Mae gennym wir ddiddordeb yn gweithio gyda’r rheiny sydd o dan anfantais yn gymdeithasol, addysgiadol, economaidd neu’n ddaearyddol neu sydd ag unrhyw fath o anabledd.
  • Darparu cyfleoedd dysgu go iawn yn ffurfiol a hefyd yn anffurfiol sy’n annog ac yn caniatáu pobl ifanc i gyflawni eu potensial.
  • I gydweithredu gydag a rhannu ymarfer da a phrofiad gydag asiantaethau (yn statudol ac yn anstatudol) sy’n darparu gwasanaethau ar gyfer pobl ifanc ac i ffugio dolenni a chynrychioli anghenion a dyheadau pobl ifanc o fewn eu cymunedau ac i Iywodraeth.

Counselling young people

 

 

 

      “Mae dod i Area 43 yn rhyw fath o fodd i mi ddianc. Mae’r teimlad yn dda yma ac mae fel sesiwn therapi ble rwy’n gallu dod i ymlacio, gwrando ar gerddoriaeth a phaentio. Hefyd, os oes gennyf unrhyw broblemau, rwy’n ymwybodol bydd y staff yn gwneud popeth y gallant i helpu “