Area43 Team Outside the new Area43 Cafe

Area 43 – Caffi Ieuenctid

Heddiw, cyhoeddodd Area 43, elusen ieuenctid o Aberteifi, y byddan nhw’n agor caffi ieuenctid yn unig ar y stryd fawr.

Elusen Gofrestredig Annibynnol yw Area 43, wedi’i lleoli yn Aberteifi, gorllewin Cymru, sy’n darparu Gwybodaeth, Cefnogaeth a Hyfforddiant i bobl ifanc rhwng 14 a 25 mlwydd oed a gwasanaethau cwnsela i’r rheiny rhwng 4 a 30 mlwydd oed. Fe’i sefydlwyd ym 1996 fel prosiect a arweinir gan anghenion cymunedol, ac ers dros 20 mlynedd, maent wedi bod yn yng nghanol y Trydydd Sector yng ngorllewin Cymru.

Darpara Area 43 amgylchedd diogel, hwyliog, addysgiadol ac ysbrydoledig i bobl ifanc gael gafael ar gymorth gyda’r nod o roi grym i bobl ifanc i fynegi eu hunain trwy ymgysylltu â’r materion sy’n effeithio arnynt yn uniongyrchol. Cyflawnir hyn trwy ymarfer addysgiadol, cyfranogol, gan alluogi pobl ifanc i ddatblygu gwybodaeth, dealltwriaeth ac agweddau cadarnhaol tuag at eu cymunedau trwy fod yn gynhwysol ac yn anfeirniadol yn eu hymagwedd.

Gyda diolch i arian gan Gronfa Busnes Twf Cymdeithasol WCVA a chyllid y Loteri Fawr, mae Area 43 yn edrych i ehangu ac adnewyddu ei wasanaeth cyfredol trwy ddarparu caffi ieuenctid, gan ddisodli’r ddarpariaeth presennol o alw heibio yn Aberteifi ar gyfer pobl ifanc 14-25 mlwydd oed.

Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Area 43 ‘Am fwy nag ugain mlynedd, mae Area 43 wedi darparu cymorth galw heibio a chwnsela i nifer o bobl ifanc sy’n agored i niwed yn y gymuned. Rydyn ni’n falch o’r hyn rydyn ni wedi’i gyflawni, ond yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae’r byd wedi newid. Hyd yn oed cyn y pandemig, mae pobl ifanc wedi profi mwy o faterion iechyd meddwl, hunanladdiad, unigedd, a system gymorth nad oedd yn diwallu eu hanghenion.

‘Mae un o bob wyth o bobl ifanc yn dioddef o fater iechyd meddwl. Mae 30% yn byw mewn tlodi, mae mwy na thraean wedi hunan-niweidio. Mae pobl ifanc yn profi diffyg cyfleoedd cyflogaeth, materion yn ymwneud â delwedd y corff a materoliaeth, pwysau gan gyfryngau cymdeithasol a stereoteipio negyddol, a phroblemau oesol o dlodi, cam-drin domestig a materion teuluol eraill, camddefnyddio sylweddau a throsedd. Ychwanegwch at hynny flwyddyn y tu allan i’r ysgol, wedi’i hynysu oddi wrth ffrindiau, teulu a systemau cymorth, ac mae’r argyfwng ar dorbwynt. Ac mae’n rhaid i ni wneud rhywbeth yn ei gylch.’

Ceisia Area 43 fynd i’r afael yn uniongyrchol â’r materion sy’n ymwneud ag unigedd, hunan-barch, gwydnwch a’r materion iechyd meddwl sy’n effeithio ar bobl ifanc. Mae angen i ni wneud hyn gyda phobl ifanc, yn hytrach na chreu gwasanaethau a gosod pobl ifanc ynddynt. Mae angen i ni fod yn hyblyg, yn cael ein harwain gan anghenion, yn seiliedig ar drawma ac yn ddibynadwy.

Yn ddiweddar, mae Area 43 wedi prynu eiddo, a elwir yn flaenorol yn Pendre Art a siop goffi Kirk’s, er mwyn rhoi cartref i’r prosiect newydd cyffrous hwn. Pobl ifanc fydd yn arwain y caffi ieuenctid, gyda chefnogaeth gweithwyr proffesiynol dibynadwy, ar gyfer pobl ifanc.

Meddai Rachael Eagles, y Prif Swyddog Gweithredol ‘Mae angen i bobl ifanc wybod y gallant ddod atom, nid yn unig pan fyddant mewn argyfwng, ond cyn hynny, ac y cânt eu clywed, eu gwrando a’u cefnogi i wneud newidiadau. Mae angen i wasanaethau apelio at bob person ifanc, bod yn agored, yn gynhwysol ac yn ddeniadol. Bydd y caffi ieuenctid yn darparu profiadau cefnogol, hwyliog a gwerth chweil sy’n hanfodol i sicrhau bod pobl ifanc yn gallu ac yn cael mynediad at wasanaethau. Felly, pe bydden byth mewn argyfwng, maen nhw’n gwybod ble i droi am gefnogaeth.’

Mae’r caffi ieuenctid, sydd eto i’w enwi, yn chwilio am bobl ifanc a hoffai fod yn rhan o ddylunio’r gwasanaethau caffi ieuenctid a dylent gysylltu ar e-bost dropin@area43.co.uk os hoffent chwarae rhan fawr mewn dylunio gwedd y caffi ieuenctid a pha weithgareddau y dylid eu rhedeg o’r ganolfan newydd hon.

Mae Area 43 yn edrych i agor y caffi ieuenctid yn hwyrach ymlaen yn y flwyddyn i ddarparu lle agored a chynhwysol i bobl ifanc 14-25 mlwydd oed, a byddant yn darparu bwyd, diodydd a gweithgareddau o’r caffi.

Llun o’r chwith i’r dde: Andrea Green (Cydlynydd Cwnsela) Jules Parker (Gweithiwr Cymorth Ieuenctid) yn dal Maisy’r Ci Therapi, Rachael Eagles (Prif Swyddog Gweithredol), Ryan Davies (Rheolwr Cyffredinol), Meggie Newman (Gweithiwr Cymorth Ieuenctid), Lisa Head (Rheolr Gwasanaethau), Jacqui Lyne (Ymddiriedolwr), Mark Taylor (Ymddiriedolwr), Geoffrey Summers (Ymddiriedolwr), Geoff Jones (Ymddiriedolwr).