area43 Internet

Mae Area 43 yn rhedeg ‘Canolfan galw i mewn’ o’n hwb gweinyddol yn Aberteifi. Rydym yn darparu amgylchedd diogel, anffurfiol, gofalgar, anwahaniaethol ac nad yw’n barnu ble gall pobl ifanc (oed 16-25) gymdeithasu gyda’u cyfoedion a chael mynediad at ystod o wybodaeth o ansawdd a chefnogaeth oddi wrth staff hyfforddedig a phrofiadol.

Mae’r ganolfan yn darparu diodydd cynnes am ddim, bwyd cymorthdaledig a chaffi rhyngrwyd. Mae hefyd gennym ystod o weithgareddau deniadol sy’n cael eu cyflwyno mewn amgylchedd anffurfiol.

Mae’r rhain yn cynnwys nifer o fathau o Gelf a Chrefft a gweithgareddau Datblygu Personol fel Adeiladu Hyder, Sgiliau Cyfathrebu, Llythrennedd Emosiynol a Sgiliau Bywyd Ymarferol.

Mae Area 43 yn ganolfan hyfforddi cofrestredig Agored Cymru, sy’n caniatáu i ni gynnig achrediad am ystod o’r gweithgareddau yma.

Darparwn gwasanaeth cwnsela cyfrinachol a phroffesiynol lawn i unrhyw berson ifanc oed 16-25 yn ein canolfan yn Aberteifi. Mae Area 43 yn cynnig gwasanaethau cwnsela annibynnol yn Ysgol Gyfun Aberaeron, Ysgol Uwchradd Aberteifi, Ysgol Bro Pedr, Ysgol Bro Preseli a Gwasanaeth Cwnsela Annibynnol wedi ei seilio mewn ysgolion yn sir Gâr.

Cliciwch ar y botwm Cwnsela isod am ragor o wybodaeth am ein gwasanaethau cwnsela, wyneb a wyneb a hefyd ar-lein.

 

“ Roedd hi’n braf cael gwybod fy mod i unwaith yr wythnos yn gallu siarad â rhywun, roedd modd i mi ganolbwyntio ar fy ngwaith ysgol yn lle poeni am bethau a oedd ar fy meddwl a dysgais sut i helpu fy hun a chael mwy o hyder ”

 

“ Fe wnaeth fy helpu troi fy rhagolwg ar bethau a theimlaf lawer hapusach am fy hun a pherthnasau gyda phobl eraill o’m cwmpas ”

 

Agored Cymru

 

area43 writing & drawing